1 Kings 18:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni fynegwyd i'm harglwydd yr hyn a wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr ARGLWYDD, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr ARGLWYDD, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt â bara ac â dwfr?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oes neb wedi dweud wrthot ti beth wnes i pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD? Gwnes i guddio cant o'r broffwydi, fesul pum deg, mewn dwy ogof, a rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oni ddywedodd neb wrth f'arglwydd yr hyn a wneuthum pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, fy mod wedi cuddio cant o broffwydi'r ARGLWYDD mewn ogof, fesul hanner cant, a'u cynnal bwyd a diod?