1 Kings 18:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr ARGLWYDD sydd DDUW, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A'r bobl nid atebasant iddo air.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Elias yn sefyll o flaen y bobl i gyd a gofyn iddyn nhw, “Am faint mwy dych chi'n mynd i eistedd ar y ffens? Os mai'r ARGLWYDD ydy'r Duw go iawn, dilynwch e, ond os mai Baal ydy e, dilynwch hwnnw!” Ddwedodd neb yr un gair.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, "Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw." Ond nid atebodd y bobl air iddo.