1 Kings 18:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a'i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o'r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n cymryd y tarw roedden nhw wedi ei gael, a'i baratoi, a'i osod ar yr allor. A dyma nhw'n galw ar Baal drwy'r bore, nes oedd hi'n ganol dydd, “Baal, ateb ni!” Ond ddigwyddodd dim byd — dim siw na miw. Roedden nhw'n dawnsio'n wyllt o gwmpas yr allor roedden nhw wedi ei gwneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi cymryd y bustach a roddwyd iddynt a'i baratoi, galwasant ar Baal o'r bore hyd hanner dydd, a dweud, "Baal, ateb ni!" Ond nid oedd llef nac ateb, er iddynt lamu o gylch yr allor.