1 Kings 18:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna tua canol dydd dyma Elias yn dechrau gwneud hwyl am eu pennau nhw. “Rhaid i chi weiddi'n uwch! Dewch, duw ydy e! Falle ei fod e'n myfyrio, neu wedi mynd i'r tŷ bach, neu wedi mynd ar daith i rywle. Neu falle ei fod e'n cysgu, a bod angen ei ddeffro!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Erbyn hanner dydd yr oedd Elias yn eu gwatwar ac yn dweud, "Galwch yn uwch, oherwydd duw ydyw; hwyrach ei fod yn synfyfyrio, neu wedi troi o'r neilltu, neu wedi mynd ar daith; neu efallai ei fod yn cysgu a bod yn rhaid ei ddeffro."