1 Kings 18:36 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan offrymid yr hwyr‐offrwm, Eleias y proffwyd a nesaodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddiw mai ti sydd DDUW yn Israel, a minnau yn was i ti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth hi'n amser i offrymu aberth yr hwyr, dyma Elias yn camu at yr allor, a dweud, “O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel, ac mai dy was di ydw i. Dangos fy mod i'n gwneud hyn am mai ti sydd wedi dweud wrtho i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, "O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd.