1 Kings 18:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pan ddistrywiodd Jesebel broffwydi yr ARGLWYDD, Obadeia a gymerodd gant o broffwydi, ac a'u cuddiodd hwynt bob yn ddeg a deugain mewn ogof, ac a'u porthodd hwynt â bara ac â dwfr.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, roedd Obadeia wedi cymryd cant o broffwydi a'u cuddio nhw fesul pum deg mewn dwy ogof. Ac roedd yn rhoi bwyd iddyn nhw, a dŵr i'w yfed.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Obadeia yn ofni'r ARGLWYDD yn fawr, a phan ddistrywiodd Jesebel broffwydi'r ARGLWYDD, fe gymerodd Obadeia gant o broffwydi a'u cuddio mewn ogof fesul hanner cant, a'u cynnal bwyd a diod.