1 Kings 18:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ahab a ddywedodd wrth Obadeia, Dos i'r wlad, at bob ffynnon ddwfr, ac at yr holl afonydd: ysgatfydd ni a gawn laswellt, fel y cadwom yn fyw y ceffylau a'r mulod, fel na adawom i'r holl anifeiliaid golli.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Ahab yn dweud wrth Obadeia, “Rhaid i ni fynd trwy'r wlad i gyd, at bob ffynnon a nant. Falle y down ni o hyd i ychydig borfa i gadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, yn lle bod rhaid i ni golli pob un anifail.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Ahab wrth Obadeia, "Cerdda drwy'r wlad i bob ffynnon a nant, ac efallai y down o hyd i laswellt, a chadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, rhag inni golli pob anifail."