1 Kings 19:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD. Ac wele yr ARGLWYDD yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo'r mynyddoedd, ac yn dryllio'r creigiau o flaen yr ARGLWYDD; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o'm blaen i.” A dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a taro'r mynydd a'r creigiau nes achosi tirlithriad. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedwyd wrtho, "Dos allan a saf ar y mynydd o flaen yr ARGLWYDD." A dyma'r ARGLWYDD yn dod heibio. Bu gwynt cryf nerthol, yn rhwygo mynyddoedd a dryllio creigiau, o flaen yr ARGLWYDD; nid oedd yr ARGLWYDD yn y gwynt. Ar l y gwynt bu daeargryn; nid oedd yr ARGLWYDD yn y ddaeargryn. Ar l y ddaeargryn bu tn; nid oedd yr ARGLWYDD yn y tn.