1 Kings 19:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Elias hyn, dyma fe'n lapio'i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo, “Be wyt ti'n wneud yma Elias?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd Elias, lapiodd ei wyneb yn ei fantell a mynd i sefyll yng ngenau'r ogof; a daeth llais yn gofyn iddo, "Beth a wnei di yma, Elias?"