1 Kings 19:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Jesebel yn anfon neges at Elias i ddweud, “Boed i'r duwiau fy melltithio i os na fydda i, erbyn yr adeg yma yfory, wedi dy ladd di fel gwnest ti eu lladd nhw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna anfonodd Jesebel negesydd i ddweud wrth Elias, "Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os na fyddaf wedi gwneud dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy erbyn yr amser hwn yfory."