1 Kings 2:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Ti a wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel osod eu hwynebau ar fy ngwneuthur i yn frenin: eithr trodd y frenhiniaeth, ac a aeth i'm brawd: canys trwy yr ARGLWYDD yr aeth hi yn eiddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n dweud, “Ti'n gwybod mai fi ddylai fod wedi bod yn frenin. Dyna oedd pobl Israel i gyd yn ei ddisgwyl. Ond fy mrawd gafodd deyrnasu, a'r ARGLWYDD wnaeth drefnu hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd ef, "Fe wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel roi eu bryd ar fy ngwneud yn frenin; ond daeth tro ar fyd, ac aeth y frenhiniaeth i'm brawd; trwy'r ARGLWYDD y cafodd hi.