1 Kings 2:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Bathseba a aeth at y brenin Solomon, i ddywedyd wrtho ef dros Adoneia. A'r brenin a gododd i'w chyfarfod hi, ac a ostyngodd iddi, ac a eisteddodd ar ei orseddfainc, ac a barodd osod gorseddfainc i fam y brenin: a hi a eisteddodd ar ei ddeheulaw ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dyma Bathseba yn mynd at y Brenin Solomon i ofyn iddo ar ran Adoneia. Dyma'r brenin yn codi i'w chyfarch ac yn ymgrymu o'i blaen hi cyn eistedd yn ôl ar ei orsedd. Yna dyma fe'n galw am gadair i'w fam, a dyma hi'n eistedd ar ei ochr dde.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly aeth Bathseba at y Brenin Solomon i ofyn iddo dros Adoneia. Cododd y brenin i'w chyfarch ac ymgrymodd iddi; yna eisteddodd ar ei orsedd, a gosodwyd gorsedd i fam y brenin eistedd ar ei law dde.