1 Kings 2:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r chwedl a ddaeth at Joab: canys Joab a wyrasai ar ôl Adoneia, er na wyrasai efe ar ôl Absalom. A ffodd Joab i babell yr ARGLWYDD, ac a ymaflodd yng nghyrn yr allor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd Joab beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n ffoi i babell yr ARGLWYDD a gafael yng nghyrn yr allor. (Roedd Joab wedi cefnogi Adoneia, er doedd e ddim wedi cefnogi Absalom.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth y newydd at Joab, a fu'n cefnogi Adoneia er na chefnogodd Absalom fe ffodd i babell yr ARGLWYDD a chydiodd yng nghyrn yr allor.