1 Kings 2:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chadw gadwraeth yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a'i orchmynion, a'i farnedigaethau, a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwna beth mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gen ti, a byw fel mae e eisiau. Rhaid i ti gadw ei reolau, ei orchmynion, y canllawiau a'r gofynion i gyd sydd yng Nghyfraith Moses. Fel yna byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di a beth bynnag fydd raid i ti ei wynebu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cadw ofynion yr ARGLWYDD dy Dduw, gan rodio yn ei ffyrdd, ac ufuddhau i'w ddeddfau, ei orchmynion, ei farnedigaethau a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd hwy yng nghyfraith Moses. Yna fe lwyddi ym mhob peth a wnei ym mhle bynnag y byddi'n troi;