1 Kings 2:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth Benaia i babell yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd wrtho ef, Fel hyn y dywed y brenin; Tyred allan. Yntau a ddywedodd, Na ddeuaf; eithr yma y byddaf farw. A Benaia a ddug drachefn air at y brenin, gan ddywedyd, Fel hyn'y dywedodd Joab, ac fel hyn y'm hatebodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth Benaia at babell yr ARGLWYDD, dyma fe'n galw ar Joab, “Mae'r brenin yn gorchymyn i ti ddod allan.” Ond dyma Joab yn ateb, “Na! Dw i am farw yma!” Felly dyma Benaia'n mynd yn ôl at y brenin a dweud wrtho beth oedd Joab wedi ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Benaia ddod i babell yr ARGLWYDD, dywedodd wrtho, "Fel hyn y dywedodd y brenin, 'Tyrd allan'." Atebodd yntau, "Na, yma y byddaf farw."