1 Kings 2:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a ddychwel ei waed ef ar ei ben ei hun; oherwydd efe a ruthrodd ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, ac a'u lladdodd hwynt â'r cleddyf, a Dafydd fy nhad heb wybod; sef Abner mab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa mab Jether, tywysog llu Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl iddo am ladd dau ddyn llawer gwell na fe'i hun — Abner fab Ner, capten byddin Israel, ac Amasa fab Jether, capten byddin Jwda — a gwneud hynny heb yn wybod i'm tad Dafydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ddial yr ARGLWYDD y gwaed arno ef am iddo ymosod, heb i'm tad Dafydd wybod, ar ddau u373?r cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, a'u lladd 'r cleddyf, sef Abner fab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa fab Jether, tywysog llu Jwda.