1 Kings 2:42 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a anfonodd ac a alwodd am Simei, ac a ddywedodd wrtho. Oni pherais i ti dyngu i'r ARGLWYDD, ac oni thystiolaethais wrthyt, gan ddywedyd, Yn y dydd yr elych allan, ac yr elych nac yma nac acw, gan wybod gwybydd y lleddir di yn farw? a thi a ddywedaist wrthyf, Da yw y gair a glywais.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
dyma fe'n anfon am Shimei a dweud wrtho, “Wyt ti'n cofio i mi wneud i ti dyngu llw o flaen yr ARGLWYDD a dy rybuddio di i beidio gadael y ddinas a mynd allan oddi yma o gwbl, neu y byddet ti'n siŵr o farw? Dwedaist ti, ‘Iawn, dw i'n cytuno i hynny.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gwysiodd y brenin Simei a dweud wrtho, "Oni thynghedais di yn enw'r ARGLWYDD? Oni rybuddiais di y byddit farw'n gelain y dydd yr ait allan i unrhyw fan? A dywedaist wrthyf, 'Purion! Fe ufuddhaf.'