1 Kings 2:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tithau hefyd a wyddost yr hyn a wnaeth Joab mab Serfia â mi, a'r hyn a wnaeth efe i ddau o dywysogion lluoedd Israel, i Abner mab Ner, ac i Amasa mab Jether, y rhai a laddodd efe, ac a ollyngodd waed rhyfel mewn heddwch, ac a roddodd waed rhyfel ar ei wregys oedd am ei lwynau, ac yn ei esgidiau oedd am ei draed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ti'n gwybod yn iawn beth wnaeth Joab, mab Serwia, i mi. Sôn ydw i am y ffordd wnaeth e ladd Abner fab Ner ac Amasa fab Jether, dau o arweinwyr byddin Israel. Lladdodd nhw mewn gwaed oer, a hynny mewn cyfnod o heddwch. Gadawodd staen gwaedlyd rhyfel ar y belt am ei ganol a'r sandalau oedd ar ei draed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwyddost yr hyn a wnaeth Joab fab Serfia mi, sef yr hyn a wnaeth i ddau gadfridog lluoedd Israel, Abner fab Ner ac Amasa fab Jether; fe'u lladdodd, a thywallt gwaed rhyfel ar adeg heddwch, a thaenu gwaed rhyfel ar y gwregys am ei lwynau a'r esgidiau am ei draed.