1 Kings 2:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond i feibion Barsilai y Gileadiad y gwnei garedigrwydd, a byddant ymysg y rhai a fwytânt ar dy fwrdd di: canys felly y daethant ataf fi pan oeddwn yn ffoi rhag Absalom dy frawd di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond bydd yn garedig at feibion Barsilai o Gilead. Gad iddyn nhw fwyta wrth dy fwrdd. Roedden nhw wedi gofalu amdana i pan oedd raid i mi ffoi oddi wrth dy frawd Absalom.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond bydd yn garedig wrth feibion Barsilai o Gilead; gad iddynt fod ymysg y rhai a fydd yn bwyta wrth dy fwrdd, oherwydd daethant ataf pan oeddwn yn ffoi rhag dy frawd Absalom.