1 Kings 2:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele hefyd Simei mab Gera, mab Jemini, o Bahurim, gyda thi, yr hwn a'm melltithiodd i â melltith dost, y dydd yr euthum i Mahanaim: ond efe a ddaeth i waered i'r Iorddonen i gyfarfod â mi; a mi a dyngais i'r ARGLWYDD wrtho ef, gan ddywedyd, Ni'th laddaf â'r cleddyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A cofia am Shimei fab Gera o Bachwrîm yn Benjamin. Roedd e wedi fy rhegi a'm melltithio i pan oeddwn i'n ar fy ffordd i Machanaîm. Ond wedyn daeth i lawr at yr Iorddonen i'm cyfarfod i pan oeddwn ar fy ffordd yn ôl, a dyma fi'n addo iddo ar fy llw, ‘Wna i ddim dy ladd di.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae hefyd gyda thi Simei fab Gera, y Benjaminiad o Bahurim; fe'm melltithiodd yn filain y dydd yr euthum i Mahanaim, ond daeth i'm cyfarfod at yr Iorddonen, a thyngais wrtho yn enw'r ARGLWYDD, 'Ni 'th laddaf 'r cleddyf.'