1 Kings 20:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glywodd efe y peth hyn, (ac efe yn yfed, efe a'r brenhinoedd, yn y pebyll,) efe a ddywedodd wrth ei weision, Ymosodwch. A hwy a ymosodasant yn erbyn y ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Ben-hadad yn diota yn ei babell gyda'r brenhinoedd eraill pan gafodd yr ateb yma. A dyma fe'n dweud wrth ei filwyr, “Paratowch i ymosod!” A dyma nhw'n paratoi i ymosod ar y ddinas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan glywodd Ben-hadad y dywediad hwn, ac yntau'n diota gyda'r brenhinoedd eraill yn y pebyll, dywedodd wrth ei weision, "Ymosodwch." Ac ymosodasant ar y ddinas.