1 Kings 20:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, rhyw broffwyd a nesaodd at Ahab brenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oni welaist ti yr holl dyrfa fawr hon? wele, mi a'i rhoddaf yn dy law di heddiw, fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma broffwyd yn mynd i weld Ahab, brenin Israel, a dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Wyt ti'n gweld y fyddin anferth yna? Heddiw dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn dy law di, a byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth rhyw broffwyd at Ahab brenin Israel a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'A weli di'r holl dyrfa fawr hon? Rhoddaf hi yn dy law heddiw, a chei wybod mai fi yw'r ARGLWYDD.'"