1 Kings 20:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ahab a ddywedodd, Trwy bwy? Dywedodd yntau, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Trwy wŷr ieuainc tywysogion y taleithiau. Ac efe a ddywedodd, Pwy a drefna y fyddin? Dywedodd yntau, Tydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Ahab yn gofyn, “Sut?” “Drwy swyddogion ifanc y taleithiau,” meddai'r proffwyd. A dyma Ahab yn gofyn, “Pwy fydd yn ymosod gyntaf?” “Ti,” meddai'r proffwyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd Ahab, "Trwy bwy?" Ac atebodd, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Trwy filwyr ifainc llywodraethwyr y taleithiau.'" Yna gofynnodd, "Pwy sydd i gychwyn y frwydr?" Ac meddai'r proffwyd, "Tydi."