1 Kings 20:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gweision brenin Syria a ddywedasant wrtho ef, Duwiau y mynyddoedd yw eu duwiau hwynt, am hynny trech fuant na ni: ond ymladdwn â hwynt yn y gwastadedd, a ni a'u gorthrechwn hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma swyddogion brenin Syria yn dweud wrtho, “Duw'r bryniau ydy eu duw nhw, a dyna pam wnaethon nhw'n curo ni. Os gwnawn ni eu hymladd nhw ar y gwastadedd byddwn ni'n siŵr o ennill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd gweision brenin Syria wrtho, "Duwiau'r mynyddoedd yw eu duwiau hwy; dyna pam y buont yn drech na ni. Ond pe baem ni'n ymladd hwy ar y gwastadedd, yn sicr fe'u trechem.