1 Kings 20:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Israel a gyfrifwyd, ac oeddynt oll yn bresennol, ac a aethant i'w cyfarfod hwynt: a meibion Israel a wersyllasant ar eu cyfer hwynt, fel dwy ddiadell fechan o eifr; a'r Syriaid oedd yn llenwi'r wlad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A pan oedd byddin Israel wedi ei galw ac wedi derbyn eu cyflenwadau dyma nhw'n mynd allan i ryfel. Roedd gwersyll Israel gyferbyn â'r Syriaid ac yn edrych fel dwy ddiadell fach o eifr o'i gymharu â byddin Syria oedd yn llenwi'r wlad!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna galwyd yr Israeliaid i fyny, a darparu bwyd ar eu cyfer, ac aethant i'w gwrthsefyll. Yr oedd yr Israeliaid yn eu gwersyll gyferbyn hwy fel dwy ddiadell fach o eifr, a'r Syriaid yn llenwi'r wlad.