1 Kings 20:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y gwregysasant sachliain am eu llwynau, a rhaffau am eu pennau, ac a ddaethant at frenin Israel, ac a ddywedasant, Benhadad dy was a ddywed, Atolwg, gad i mi fyw. Dywedodd yntau, A ydyw efe eto yn fyw? fy mrawd yw efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n gwisgo sachliain a rhoi raffau am eu gyddfau a mynd allan at frenin Israel, a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad yn gofyn, ‘Plîs, gad i mi fyw.’” “Beth? Ydy e'n dal yn fyw?” meddai brenin Israel, “Mae e fel brawd i mi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A rhoesant sachliain am eu llwynau a rhaffau am eu gyddfau, a mynd at frenin Israel a dweud wrtho, "Mae dy was Ben-hadad yn dweud, 'Arbed fy mywyd.'" Meddai yntau, "A yw'n fyw o hyd? Fy mrawd ydyw."