1 Kings 20:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Benhadad a ddywedodd wrtho, Y dinasoedd a ddug fy nhad i oddi ar dy dad di, a roddaf drachefn; a chei wneuthur heolydd i ti yn Damascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria. A dywedodd Ahab, Mi a'th ollyngaf dan yr amod hwn. Felly efe a wnaeth gyfamod ag ef, ac a'i gollyngodd ef ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Ben-hadad yn dweud wrtho, “Dw i am roi'r trefi wnaeth fy nhad eu cymryd oddi ar dy dad di yn ôl i ti. A cei di sefydlu canolfannau marchnata yn Damascus, fel roedd fy nhad i wedi gwneud yn Samaria.” Dyma Ahab yn dweud, “Dw i am i ni wneud cytundeb heddwch cyn dy ollwng di'n rhydd.” Felly dyma'r ddau yn gwneud cytundeb, a dyma Ben-hadad yn cael mynd yn rhydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd Ben-hadad wrtho, "Dychwelaf y trefi a ddygodd fy nhad oddi ar dy dad; a chei osod marchnadau i ti dy hun yn Namascus, fel y gwnaeth fy nhad yn Samaria; rhyddha fi ar yr amod hwn." A gwnaeth Ahab gytundeb ag ef a'i ollwng yn rhydd.