1 Kings 20:36 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd yntau wrtho, Oherwydd na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, wele, pan elych oddi wrthyf, llew a'th ladd di. Ac efe a aeth oddi wrtho ef, a llew a'i cyfarfu ef, ac a'i lladdodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fe'n dweud wrtho, “Am i ti wrthod gwrando ar yr ARGLWYDD, pan fyddi di'n fy ngadael i bydd llew yn ymosod arnat ti.” Ac wrth iddo fynd oddi wrtho dyma lew yn ymosod arno a'i ladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd yntau wrtho, "Am iti wrthod ufuddhau i lais yr ARGLWYDD, bydd llew yn ymosod arnat pan ei oddi wrthyf." Ac wedi iddo fynd oddi wrtho, cyfarfu llew ag ef ac ymosod arno.