1 Kings 20:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Yn ôl dy air di, fy arglwydd frenin, myfi a'r hyn oll sydd gennyf ydym eiddot ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma frenin Israel yn ateb, “Iawn, fy mrenin, fy meistr i! Ti sydd piau fi a phopeth sydd gen i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd brenin Israel, "Fel y dywedi, f'arglwydd frenin; ti piau fi a phopeth a feddaf."