1 Kings 20:41 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a frysiodd, ac a dynnodd ymaith y lludw oddi ar ei wyneb: a brenin Israel a'i hadnabu ef, mai o'r proffwydi yr oedd efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna, heb oedi dim, dyma'r proffwyd yn dangos ei wyneb. A dyma frenin Israel yn sylweddoli ei fod yn un o'r proffwydi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Heb oedi dim, tynnodd yntau'r cadach oddi ar ei lygaid, a gwelodd brenin Israel mai un o'r proffwydi oedd.