1 Kings 20:42 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd i ti ollwng ymaith o'th law y gŵr a nodais i'w ddifetha, dy einioes di fydd yn lle ei einioes ef, a'th bobl di yn lle ei bobl ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r proffwyd yn dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am i ti ollwng yn rhydd y dyn roeddwn i wedi dweud ei fod i farw, byddi di'n marw yn ei le, a bydd dy bobl di yn dioddef yn lle ei bobl e.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Am iti ollwng yn rhydd y gu373?r oedd i'w ddifodi, rhaid i ti gymryd ei le, a'th bobl di le ei bobl ef.'"