1 Kings 20:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna brenin Israel a alwodd holl henuriaid y wlad, ac a ddywedodd, Gwybyddwch, atolwg, a gwelwch mai ceisio drygioni y mae hwn: canys efe a anfonodd ataf fi am fy ngwragedd, ac am fy meibion, ac am fy arian, ac am fy aur; ac nis gomeddais ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma frenin Israel yn galw holl arweinwyr y wlad at ei gilydd, a dweud, “Gwrandwch, mae'r dyn yma am greu helynt go iawn. Pan wnaeth e hawlio'r gwragedd a'r plant a'r holl arian a'r aur sydd gen i, wnes i ddim ei wrthod e.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna galwodd brenin Israel holl henuriaid y wlad a dweud, "Sylwch fel y mae hwn am fynnu helynt. Oherwydd pan anfonodd ataf am fy ngwragedd a'm plant, a'm harian a'm haur, nid oeddwn yn eu gomedd iddo."