1 Kings 20:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y dywedodd efe wrth genhadau Benhadad, Dywedwch i'm harglwydd y brenin, Am yr hyn oll yr anfonaist ti at dy was ar y cyntaf, mi a'i gwnaf: ond ni allaf wneuthur y peth hyn. A'r cenhadau a aethant, ac a ddygasant air iddo drachefn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Ahab yn dweud wrth negeswyr Ben-hadad, “Dwedwch wrth fy meistr, y brenin, ‘Dw i'n fodlon gwneud popeth wnest ti ofyn y tro cyntaf, ond alla i ddim cytuno i hyn.’” A dyma'r negeswyr yn mynd â'r ateb yn ôl i'w meistr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd y brenin wrth negesyddion Ben-hadad, "Dywedwch wrth f'arglwydd frenin, 'Gwnaf bopeth a hawliaist gan dy was y tro cyntaf, ond ni allaf wneud y peth hwn.'" Ymadawodd y negesyddion a mynd 'r ateb i Ben-hadad.