1 Kings 21:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyflëwch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn ag ef, i dystiolaethu i'w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist DDUW a'r brenin. Ac yna dygwch ef allan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna ffeindiwch ddau ddyn drwg a'i gosod nhw i eistedd gyferbyn ag e, a'u cael nhw i gyhuddo Naboth o fod wedi melltithio Duw a'r brenin. Wedyn ewch ag e allan a thaflu cerrig ato nes bydd wedi marw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dau ddihiryn i dystio yn ei erbyn, 'Yr wyt ti wedi melltithio Duw a'r brenin.' Yna ewch ag ef allan a'i labyddio'n gelain."