1 Kings 21:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd DDUW a'r brenin. Yna hwy a'i dygasant ef allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma ddau ddyn drwg yn eistedd gyferbyn â Naboth. A dyma nhw'n ei gyhuddo o flaen pawb, a dweud, “Mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin!” Felly dyma nhw'n mynd â Naboth allan o'r dre a thaflu cerrig ato nes roedd wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a daeth y ddau ddihiryn ac eistedd o'i flaen, a thystio yn erbyn Naboth gerbron y bobl a dweud, "Y mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin." Aed ag ef y tu allan i'r ddinas a'i labyddio cherrig nes iddo farw.