1 Kings 21:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ahab a lefarodd wrth Naboth, gan ddywedyd, Dyro i mi dy winllan, fel y byddo hi i mi yn ardd lysiau, canys y mae hi yn agos i'm tŷ i: a mi a roddaf i ti amdani hi winllan well na hi; neu, os da fydd gennyt, rhoddaf i ti ei gwerth hi yn arian.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Ahab yn gwneud cynnig i Naboth, “Rho dy winllan i mi, i mi gael ei throi hi'n ardd lysiau gan ei bod hi reit wrth ymyl y palas. Gwna i roi gwinllan well i ti yn ei lle hi. Neu, os wyt ti eisiau, gwna i dalu pris teg i ti amdani.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Ahab wrth Naboth, "Rho dy winllan i mi i fod yn ardd lysiau, gan ei bod mor agos i'm tu375?; a rhof iti'n gyfnewid winllan well na hi. Neu, os yw'n well gennyt, rhof iti ei gwerth mewn arian."