1 Kings 21:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ahab a ddaeth i'w dŷ yn athrist ac yn ddicllon, oherwydd y gair a lefarasai Naboth y Jesreeliad wrtho ef; canys efe a ddywedasai, Ni roddaf i ti dreftadaeth fy hynafiaid. Ac efe a orweddodd ar ei wely, ac a drodd ei wyneb ymaith, ac ni fwytâi fara.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Ahab yn mynd yn ôl i'r palas yn sarrug a blin am fod Naboth wedi gwrthod rhoi'r winllan iddo. Dyma fe'n gorwedd ar ei wely wedi pwdu, ac yn gwrthod bwyta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dychwelodd Ahab i'w du375? yn ddigalon a dig am i Naboth y Jesreeliad ateb, "Ni roddaf iti etifeddiaeth fy hynafiaid." Bwriodd ei hun ar ei wely, a throi ei wyneb draw a gwrthod bwyta.