1 Kings 21:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jesebel ei wraig a ddywedodd wrtho, Ydwyt ti yn awr yn teyrnasu ar Israel? cyfod, bwyta fara, a llawenyched dy galon; myfi a roddaf i ti winllan Naboth y Jesreeliad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Jesebel yn dweud, “Wyt ti'n frenin Israel neu ddim? Tyrd, bwyta rywbeth. Cod dy galon! Gwna i gael gafael ar winllan Naboth i ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Jesebel wrtho, "Dangos yn awr mai ti yw'r brenin yn Israel. Cod, bwyta, cod dy galon, fe roddaf fi winllan Naboth y Jesreeliad iti."