1 Kings 22:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly efe a ddaeth at y brenin. A'r brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth‐Gilead, ai peidio? Dywedodd yntau wrtho, Dos i fyny, a llwydda; canys yr ARGLWYDD a'i dyry hi yn llaw y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth e at y brenin dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Michea, ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma fe'n ateb, “Dos di! Byddi'n llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, "Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?" A dywedodd yntau wrtho, "Dos i fyny a llwydda, ac fe rydd yr ARGLWYDD hi yn llaw'r brenin."