1 Kings 22:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Clyw gan hynny air yr ARGLWYDD: Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu'r nefoedd yn sefyll yn ei ymyl, ar ei law ddeau ac ar ei law aswy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Michea'n dweud eto, “Felly, gwrando ar neges yr ARGLWYDD. Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, a'i fyddin o angylion yn sefyll bob ochr iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Michea, "Am hynny, gwrando air yr ARGLWYDD; gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orsedd, gyda holl lu'r nef yn sefyll ar y dde ac ar y chwith iddo.