1 Kings 22:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i'r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad dy hun. A brenin Israel a newidiodd ei ddillad, ac a aeth i'r rhyfel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma frenin Israel yn dweud wrth Jehosaffat, “Dw i yn mynd i wisgo dillad gwahanol i fynd i ryfel, ond gwisga di dy ddillad brenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad a mynd i'r frwydr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, "Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol." Newidiodd brenin Israel ei wisg a mynd i'r frwydr.