1 Kings 22:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo, sef deuddeg ar hugain, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd brenin Syria wedi rhoi gorchymyn i'r tri deg dau capten oedd ganddo ar ei gerbydau, “Peidiwch poeni ymladd gyda neb, yn filwyr cyffredin na swyddogion, dim ond gyda brenin Israel.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i'r deuddeg capten ar hugain oedd ganddo ar y cerbydau, "Peidiwch ag ymladd neb, bach na mawr, ond brenin Israel yn unig."