1 Kings 22:35 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw: a'r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid; ac efe a fu farw gyda'r hwyr: a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth y frwydr yn ei blaen drwy'r dydd. Roedd y brenin Ahab yn cael ei ddal i fyny yn ei gerbyd yn gwylio'r Syriaid. Yna gyda'r nos dyma fe'n marw. Roedd y gwaed o'i anaf wedi rhedeg dros lawr y cerbyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i'r brenin aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr, pan fu farw; a llifodd gwaed yr archoll i waelod y cerbyd.