1 Kings 22:39 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhan arall o hanesion Ahab, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r tŷ ifori a adeiladodd efe, a'r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gweddill hanes Ahab, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni (hanes y palas ifori a'r holl drefi wnaeth e adeiladu) i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid yw gweddill hanes Ahab, a'r cwbl a wnaeth, a hanes y palas ifori a gododd, a'r holl drefi a adeiladodd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?