1 Kings 22:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat, A ei gyda mi i ryfel i Ramoth‐Gilead? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel, Yr ydwyf fi fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fe'n gofyn i Jehosaffat, “Ddoi di gyda mi i ymladd am Ramoth-gilead?” A dyma Jehosaffat yn ei ateb, “Dw i gyda ti, a bydd fy myddin i gyda dy fyddin di!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gofynnodd brenin Israel i Jehosaffat, "A ddoi di gyda mi i ryfel i Ramoth-gilead?" Dywedodd Jehosaffat wrth frenin Israel, "Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di, fy meirch i fel dy feirch di."