1 Kings 22:43 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad, ni ŵyrodd efe oddi wrthi hi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. Ond wnaeth e ddim cael gwared â'r allorau lleol, ac roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dilynodd lwybr ei dad Asa yn hollol ddiwyro, a gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Er hynny, ni symudwyd yr uchelfeydd, ac yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.