1 Kings 22:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn Ramoth‐Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys yr ARGLWYDD a'i dyry hi yn llaw y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma frenin Israel yn casglu'r proffwydi at ei gilydd — roedd tua pedwar cant ohonyn nhw. A dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Ddylwn i ymosod ar Ramoth-gilead neu ddim?” A dyma nhw'n ateb, “Dos! Bydd y Meistr yn rhoi buddugoliaeth i'r brenin!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, tua phedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, "A ddylwn fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?" Dywedasant hwythau, "Dos i fyny, ac fe rydd yr ARGLWYDD hi yn llaw'r brenin."