1 Kings 22:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â'r ARGLWYDD: eithr cas yw gennyf fi ef; canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni; Michea mab Jimla yw efe. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma frenin Israel yn ateb, “Oes, mae yna un dyn gallwn holi'r ARGLWYDD trwyddo. Ond dw i'n ei gasáu e, achos dydy e byth yn proffwydo dim byd da i mi, dim ond drwg. Ei enw e ydy Michea fab Imla.” “Paid siarad fel yna,” meddai Jehosaffat.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, "Oes, y mae un gu373?r eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla; ond y mae'n atgas gennyf, am nad yw'n proffwydo lles i mi, dim ond drwg." Dywedodd Jehosaffat, "Peidied y brenin dweud fel yna."