1 Kings 3:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r wraig arall a ddywedodd, Nage; eithr fy mab i yw y byw, a'th fab dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a'm mab i yw y byw. Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r ferch arall yn dweud, “Na! Fy mab i ydy'r un byw. Dy fab di sydd wedi marw.” A dyma'r gyntaf yn ateb “Nage, yr un marw ydy dy fab di. Fy mab i ydy'r un byw.” Roedd y ddwy ohonyn nhw'n dadlau â'i gilydd fel hyn o flaen y brenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai'r wraig arall, "Na, fy mab i yw'r un byw; dy fab di yw'r un marw." Yna, dyma'r gyntaf yn dweud, "Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw." Taeru felly y buont gerbron y brenin.