1 Kings 3:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd y brenin, Hon sydd yn dywedyd, Dyma fy mab i sydd fyw, a'th fab dithau yw y marw: a hon acw sydd yn dywedyd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a'm mab innau yw y byw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r brenin yn dweud, “Mae un ohonoch chi'n dweud, ‘Fy mab i ydy hwn; mae dy fab di wedi marw’, a'r llall yn dweud, ‘Na! Dy fab di sydd wedi marw; fy mab i ydy'r un byw.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd y brenin, "Y mae'r naill yn dweud, 'Hwn yw fy mab i, y byw; yr un marw yw dy fab di.' Ac y mae'r llall yn dweud, 'Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw.'"